Betsi Cadwaladr LHB Colour

Adroddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i'r

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 4.3.19

1. Pwrpas yr Adroddiad

Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu diweddariad i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC) ar y sefyllfa o ran:

·                cyllid a pherfformiad

·                cynnydd yn erbyn argymhellion PAC i'r Bwrdd Iechyd o adroddiad Chwefror 2016 'Materion ehangach sy'n deillio o adolygiad llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr' (argymhellion 12 a 13)

·                gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl, gan gynnwys y gweithredu a ymgymerwyd mewn ymateb i ymchwiliad Gwasanaeth Cynghori Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) ac Adolygiad Llywodraethu Donna Ockenden a gyhoeddwyd yn 2018

·                mesurau arbennig

·                pryderon (rheoli cwynion a digwyddiadau)

 

2.            Penawdau Gwelliannau Allweddol - Crynodeb

 

Bydd y dystiolaeth a ddarperir yn yr adroddiad hwn yn dangos yr ystod o welliannau a gyflawnwyd ers yr adroddiad PAC diwethaf.  Mae'r gwelliannau allweddol fel a ganlyn:

 

 

3.             Cyllid

 

3.1 Dangosir y perfformiad ariannol dros y pedair blynedd diwethaf, ynghyd â rhagamcan 2018/19 yn y tabl isod:

Blwyddyn Ariannol

Diffyg      £m

Diffyg fel canran o Ddyraniad Adnoddau Refeniw

Arbedion wedi'u sicrhau     £m

Gwariant ar Asiantaethau £m

2014/2015

£26.6

2.1%

£34.9

£31.0

2015/2016

£19.5

1.5%

£34.5

£37.4

2016/2017

£29.8

2.2%

£33.5

£45.0

2017/2018

£39.0

2.7%

£41.7

£34.5

2018/2019 (rhagamcan M9)

£42.0 

2.8%

£38.9 

£30.1  

           

3.2 Cymeradwyodd y Bwrdd Iechyd gynllun ariannol ym mis Mawrth 2018 a gydnabu ddiffyg ariannol o £35m, a oedd yn gofyn am sicrhau arbedion o £45m; yr oedd £22m o'r rhain yn rhai rhyddhau arian parod.

3.3 Mae'r rhagamcan presennol wedi cynyddu'r diffyg o £35m i £42m, sy'n adlewyrchu'r risgiau sylweddol yn ymwneud â thanberfformiad cynlluniau arbedion a ddisgwylir ar hyn o bryd i dangyflawni erbyn £6.2m a phwysau cost yn ymwneud â gofal eilaidd, Gofal Iechyd Parhaus a phecynnau gofal a Gwasanaethau Iechyd Meddwl.

3.4 Mae'r Bwrdd Iechyd wedi gallu ymatal twf costau yn y rhan fwyaf o feysydd, ond mae costau Gofal Eilaidd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y flwyddyn, wedi'u hariannu'n rhannol gan gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (amseroedd aros, gofal heb ei drefnu, cyffuriau a chapasiti gweithredol). Mae'r uwch adran gofal eilaidd wedi mynd i gostau o ryw £13m ar staff asiantaethau ym Mis 9, £5.2 ar asiantaethau meddygol a £7.7m ar asiantaethau nyrsio.

3.5 Cafodd yr arian a glustnodwyd ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl ei bennu yn 2008. Ar hyn o bryd, mae'r Bwrdd Iechyd yn gwario mwy o lawer na'r dyraniad clustnodi a thua £4.5m yw gwariant disgwyliedig diwedd y flwyddyn, a £2.6m yw'r diffyg diwedd blwyddyn disgwyliedig yn erbyn y cynllun arbedion. Mae Pecynnau Gofal, yn benodol mewn Gofal Iechyd Parhaus a chostau staffio yn parhau i fod yn bwysau cost sylweddol i wasanaethau Iechyd Meddwl ar draws y Bwrdd Iechyd.

3.6 Costau Asiantaeth - mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithio'n galed i sicrhau lleihad mewn costau staff asiantaethau dros y tair blynedd diwethaf ond cafwyd newid nodedig yn y gwariant fesul grŵp staff, ac roedd defnyddio asiantaethau nyrsio yn peri mwyfwy o bryder: 

 

 

3.7 Buddsoddiadau – mae'r Bwrdd Iechyd wedi parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau clinigol allweddol a staff ac yn 2018/19, gwnaeth nifer o fuddsoddiadau i wella canlyniadau a phrofiad cleifion.

Mae’r rhain yn cynnwys:

 

3.8 Arbedion – mae'r Bwrdd Iechyd wedi sicrhau lefelau sylweddol o arbedion dros nifer o flynyddoedd (gweler y data uchod). Mae llawer o hyn wedi bod trwy gamau trafodaethol ac mae'r Bwrdd wedi cydnabod na fydd yr ymagwedd hon yn arwain at sefyllfa ariannol gynaliadwy. Yn ystod 2018/19, gwnaeth y Bwrdd benodi Cyfarwyddwr Trawsnewid a thrwy drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, mae wedi sicrhau adnoddau ychwanegol a fydd yn meithrin capasiti a gallu i gynllunio'r arbedion cylchol sylweddol sydd eu hangen yn y blynyddoedd sydd i ddod. Bydd y capasiti ychwanegol hwn yn gwella Swyddfa Reoli Rhaglen ardal ganol y Bwrdd Iechyd, gwella capasiti rheoli rhaglenni o ran rhaglenni newid a datblygu sgiliau gwella gwasanaethau ymhellach a chapasiti i gynorthwyo timau clinigol i sicrhau newid.Yn 2018/19, disgwylir i'r Bwrdd sicrhau gwerth £38.9m o arbedion sy'n hafal i leihad o 2.6% mewn gwariant. Ar ddiwedd Rhagfyr, £25.7m oedd yr arbedion a gyflawnwyd  ac roedd £24.7m o hynny yn arbedion cylchol, sy'n hafal i 96%, ac mae £1m yn anghylchol.  Y rhagamcan ar gyfer y flwyddyn lawn yw £35.7m o gyllid cylchol a £3.2m o gyllid anghylchol.

3.9 Cafodd y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer y flwyddyn eu gosod ar £45m, ond nid yw elfennau sylweddol ar y rhaglen yn ymwneud ag effeithlonrwydd cynyddol a defnyddio adnoddau'n effeithiol wedi'u cyflawni. Mae'r methiant i gyflawni'n adlewyrchu cynllun uchelgeisiol a diffyg capasiti yn y sefydliad i ganolbwyntio ar y gofynion hyn ochr yn ochr â phwysau gwasanaeth gweithredol eraill.

3.10 Yn ystod 2019/20, bydd yr ymagwedd tuag at arbedion yn newid yn raddol o fodel sy'n drafodaethol yn bennaf i un sydd wedi'i alinio â newid trawsffurfiannol.

 

  1. Perfformiad

 

4.1 Dau o'n meysydd perfformiad allweddol, o ran targedau pwysig a'n heriau cyfredol, yw amseroedd mynediad ar gyfer gofal dewisol a'r amser i dderbyn gofal heb ei drefnu yn Adrannau Achosion Brys ac Unedau Mân Anafiadau'r Bwrdd Iechyd.   Darperir gwybodaeth am ein perfformiad a naratif i gefnogi isod.

4.2  Mynediad at ofal dewisol - ein targed yw trin 95% o bobl sy'n aros am ofal a gynlluniwyd o fewn 26 wythnos o'u cyfeirio gan feddyg teulu.

 

4.3 Mesur yr un mor bwysig yw nifer y bobl sy'n aros dros 36 wythnos, ond y targed yw dim.

 

4.4 O ran y ddau fesur hwn, BIPBC yw'r bwrdd iechyd gyda'r perfformiad isaf yng Nghymru ar hyn o bryd.  Wedi dweud hynny, am y saith mis diwethaf, mae nifer y bobl sy'n aros dros 36 wythnos wedi bod yn is na'r misoedd cyfatebol yn y blynyddoedd blaenorol.  Ein gwasanaethau sydd â'r heriau mwyaf yw orthopedeg, wroleg ac offthalmoleg lle mae'r galw'n uwch na'r capasiti - gyda'i gilydd mae'r tri yn cynrychioli'r mwyafrif o'n heriau mynediad dewisol. 

4.5         Mae cynllun a gymeradwywyd gan y Bwrdd i wella'n gwasanaethau orthopedeg, sy'n cynnwys gwasanaeth o'r tu allan, staff ymgynghorol ychwanegol, gwell cynhyrchedd ac ail-drefnu safleoedd (bydd ein tri phrif safle llym yn parhau i ddarparu gwasanaethau trawma a dewisol orthopedig).  Mae trafodaethau ar y gweill gyda Llywodraeth Cymru ynghylch adnoddau ar gyfer y cynllun hwn.

 

4.6 Mae cynllunio wedi cyrraedd cyfnod datblygedig ar gyfer ail-drefnu gwasanaethau wroleg arfaethedig, gan gynnwys sefydlu canolfan canser pelfig ar gyfer Gogledd Cymru.

 

4.7 O ran offthalmoleg, rydym wedi cael budd o gefnogaeth rheoli prosiect Llywodraeth Cymru, wrth i ni ddechrau ar ein had-drefnu gwasanaethau offthalmoleg yn unol â safonau gofal llygaid cenedlaethol.

 

4.8 Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn gweithio ar frys i adolygu prosesau sydd wedi'u sefydlu sy'n cael budd o arweinyddiaeth un pwrpas o brosesau gofal a gynlluniwyd sy'n cael eu rhoi yn eu lle o Ionawr 2019.   Mae gweithrediadau adfer penodol pellach, gan gynnwys capasiti ychwanegol, yn cael eu rhoi yn eu lle i sicrhau cyflawniad 2018/19. Yn fwy cyffredinol, mae gan y Bwrdd Iechyd ystâd sy'n arwyddocaol waeth na gweddill Cymru o ran oed ac addasrwydd gweithredol.  Er enghraifft, mae methiannau adeiladau diweddar wedi arwain at gau uned gofal dydd yn Wrecsam.

 

4.9 Mynediad at ofal heb ei drefnu - mae'r mesur allweddol yn ymwneud â chanrannau cleifion newydd sy'n treulio dim mwy na phedair awr mewn adrannau achosion brys neu unedau mân anafiadau. Y targed yw 95%

4.10 Y Bwrdd Iechyd sy'n perfformio waethaf o'r holl fyrddau iechyd yn erbyn y mesur hwn.

4.11 Mae'r Bwrdd Iechyd yn wynebu heriau tebyg o ran niferoedd y bobl sy'n aros dros 12 awr.

4.12  Mae ymagwedd gwella newydd - yn seiliedig ar gylchoedd gwella 90 diwrnod - wedi dechrau cyflawni rhai canlyniadau.  Mae'r gwaith yn seiliedig o gwmpas tair ffrwd waith allweddol:

·         Galw - rydym wedi sefydlu gwasanaeth asesu a brysbennu clinigol arloesol ar y cyd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.  Er bod y niferoedd yn isel ar hyn o bryd, mae'r canlyniadau (o ran darparu dewisiadau eraill i adrannau achosion brys ysbytai) yn galonogol.

·         Llif - cyflymu llif drwy ysbytai drwy fewnosod yr egwyddorion SAFER, gan gynnwys rhyddhau cynnar ac adolygu gan uwch benderfynwyr clinigol.

·         Rhyddhau - gan gynnwys darparu gwell llenyddiaeth i gleifion.

 

4.13 Gwelwyd cynnydd hefyd o ran llai o oediadau trosglwyddo ambiwlans:

 

4.14 Gwelir gwelliannau yn niferoedd yr oediadau trosglwyddo ambiwlans a cholli amser.  O ganlyniad, mae lleihad o 25% mewn digwyddiadau difrifol ac ni chyflwynwyd rhybuddion 'Rheoliad 28' gan y Crwner.

4.15 Mae llawer llai o oediadau wrth drosglwyddo cleifion o'n ysbytai hefyd, fel y gwelir isod.

 

4.16 Dylid nodi bod bylchau staffio megis swyddi gwag meddygon ymgynghorol yn yr Adrannau Achosion Brys, Dermatoleg, meddygon graddfeydd canolig a nyrsys yn effeithio ar berfformiad gofal dewisol a heb ei drefnu'r Bwrdd Iechyd.

 

4.17      Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwytnwch y gaeaf wedi cefnogi nifer o gynlluniau i ymateb i bwysau'r gaeaf a chynnydd yn y galw.  Mae'r cynllun yn cynnwys menter osgoi derbyniad.

 

 

 

5. Cynnydd yn erbyn Argymhellion PAC ar gyfer y Bwrdd Iechyd

 

5.1 Cefndir a Chyd-destun

 

5.1.1 Cyhoeddwyd adroddiad PAC o'r enw 'Materion ehangach yn deillio o adolygiad llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr' yn Chwefror 2016 ac fe’i ystyriwyd gan y Bwrdd Iechyd yn gyhoeddus ym Mawrth 2016. Ymatebodd Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a BIPBC i'r adroddiad ar y cyd ym Mehefin 2016.

5.1.2 Y ddau argymhelliad penodol i’r Bwrdd oedd:

Argymhelliad 12 - Rydym yn argymell bod Bwrdd Iechyd PBC yn rhoi diweddariad i'n Pwyllgor olynol yn y pumed Cynulliad ar gynnydd tuag at wella gwasanaethau iechyd meddwl erbyn mis Mehefin 2016.

Argymhelliad 13 - Nid yw'r Pwyllgor yn credu bod y gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau yn dderbyniol yn BIPBC ac rydym yn argymell bod y Bwrdd Iechyd yn ymdrin â hyn ar frys.

5.2 Cynnydd tuag at Wella Gwasanaethau Iechyd Meddwl (Argymhelliad 12) 

5.2.1 Mae gwelliant mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn un o'r disgwyliadau allweddol o fewn y Fframwaith Gwella Mesurau Arbennig fel y nodwyd uchod, a chraffwyd ar adroddiadau diweddaru rheolaidd ar gynnydd  drwy'r strwythur pwyllgor a chan y Bwrdd ei hun. 

5.2.2 Arweinyddiaeth a Llywodraethu - arweiniwyd gwelliannau mewn effeithiolrwydd arweinyddiaeth a strwythurau llywodraethu gan Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, a benodwyd fel Aelod Cysylltiol o'r Bwrdd gyda chaniatâd y Gweinidog.  Cefnogwyd y gwaith hwn gan fuddsoddiad ychwanegol arwyddocaol gan Lywodraeth Cymru ers 2015.  Cryfhawyd uwch dîm yr Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ymhellach a phenodwyd Emrys Elias gan Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Bwrdd Iechyd a phrofi cynnydd ar yr ystod o welliannau angenrheidiol, yn cynnwys lleihau ein lleoli y tu allan i'r ardal (prin yn digwydd bellach), i helpu cyflawni gwelliannau ariannol ynghyd â chanlyniadau clinigol gwell. Rhoddwyd sylw arbennig i feysydd allweddol, gan gynnwys strwythur yr Uwch Adran, rheoleiddiad gweithredol, prosesau trosglwyddo gofal gohiriedig, lleoliadau y tu allan i'r ardal a gofal iechyd parhaus. 

5.2.3 Datblygu strategaeth - Datblygwyd y strategaeth gwasanaethau iechyd meddwl, Law yn llaw at Iechyd Meddwl, gyda mewnbwn helaeth gan ddefnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid eraill.  Fe'i cymeradwywyd gan y Bwrdd yn Ebrill 2017 ac mae'n parhau i gael ei ddatblygu, drwy wybodaeth sy'n deillio o ymgysylltu â phartneriaid.  

5.2.4 Ysgrifennwyd y Strategaeth gyda'r bwriad iddo gynnwys pob oed a'r system gyfan, ac felly mae'n cynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau, Oedolion Oed Gweithio, Gwasanaethau Fforensig, Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl Pobl Hŷn. Mae'r pwyslais bellach wedi symud ymlaen o'r strategaeth ddechreuol ac ymgysylltu i fodel prif-ffrydio i'r dyfodol ar gyfer y gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu. Mae'r cyfrifoldeb dros weithredu'r strategaeth wedi cael ei ddirprwyo gan Fwrdd Partneriaeth Iechyd Meddwl Law yn Llaw at Iechyd Meddwl Gogledd Cymru i dri Thîm Gweithredu Lleol (LIT) sy'n cwmpasu Ynys Môn a Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych, a Wrecsam a Sir y Fflint.  Mae eu haelodaeth yn cynnwys cynrychiolaeth staff y Bwrdd Iechyd, cleifion, gofalwyr, y trydydd sector a sefydliadau partner, gan gynnwys WAST, yr heddlu, awdurdodau lleol, asiantaethau budd-daliadau a'r Cyngor Iechyd Cymuned. Mae'r gwaith a wnaed gan y LITs wedi hysbysu cais llwyddiannus a gyflwynwyd i gronfa trawsnewid Cymru Iachach i ddarparu'r hwb sydd ei angen i gefnogi datblygiad llwybr y Strategaeth Iechyd Meddwl. Yn ogystal â’r 3 LIT, mae 7 Grŵp Ansawdd a’r Gweithlu dan arweiniad clinigol yn gyfrifol am ddatblygu'r cynlluniau manwl ar gyfer y model gwasanaeth clinigol ar draws Gwasanaethau Iechyd Meddwl.

5.2.5 Cydymffurfiaeth - mae rhai heriau allweddol yn parhau o ran cydymffurfio parhaus â'r Ddeddf Iechyd Meddwl a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) a darparwyd cefnogaeth ychwanegol gan Uned Ddarparu Llywodraeth Cymru.  Mae cydymffurfiaeth yn cael ei fonitro'n ofalus a'i oruchwylio gan Bwyllgor Deddf Iechyd Meddwl y Bwrdd.  Adnewyddwyd a sefydlogwyd y pwyllgor hwn ac mae wedi rhoi mwy o drefniadau llywodraethu effeithiol yn eu lle. Hefyd ymestynnwyd yr hyfforddiant cyffredin i Reolwyr Deddf Iechyd Meddwl a Rheolwyr Ysbyty Cysylltiol, i sicrhau eu bod yn gyfredol gyda'r newidiadau i'r Côd Ymarfer yng Nghymru.

5.2.6  Timau Iechyd Meddwl Cymuned – mae Uned Ddarparu Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r timau hyn ledled Cymru, ac yn dilyn hyn, mae’r Bwrdd Iechyd wedi archwilio gallu a galw ar draws y rhanbarth. Bydd hyn yn llywio’r gwaith o gynllunio’r gweithlu i’r dyfodol ac yn cyfrannu at gyflawni’r Mesur Iechyd Meddwl yn gyson.

5.2.7 Metrigau ansawdd - o ran gwaith ar daflwybrau gwelliannau, cyflwynwyd dangosfwrdd wardiau ac mae hwn yn darparu'r sefyllfa ddiweddaraf sydd ar gael yn erbyn targedau perfformiad disgwyliedig.   Mae'r dangosfwrdd yn hygyrch drwy dudalen mewnrwyd newydd yr Uwch Adran i sicrhau gwelededd i'r holl staff.  Mae hyn hefyd yn darparu dolenni at ddata IRIS, adroddiadau uwch adrannol eraill a gwybodaeth Meincnodi'r GIG.  Mae ffurf y dangosfwrdd wardiau bellach yn cael ei defnyddio i ddatblygu dangosfwrdd cymuned, i sicrhau bod offer rheoli perfformiad y Timau Iechyd Meddwl Cymuned yn cyd-fynd â rhai'r wardiau.  Y bwriad yw ymestyn Dangosfwrdd Ansawdd trosbontiol y Bwrdd Iechyd, gan ychwanegu dangoswyr iechyd meddwl, fel bod ymdriniaeth a chyswllt dros yr Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu gyfan gyda dangosfyrddau'r ward a chymuned. 

5.2.8 Gwella Ansawdd - cymeradwywyd Cynllun Gwella Ansawdd a Llywodraethu  ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl  gan y Bwrdd yn Awst 2018.  Aliniwyd y ddogfen i'r Strategaeth Gwella Ansawdd corfforaethol cyffredinol a fframwaith llywodraethu ac yn dangos ymateb clir i argymhellion gan adroddiadau HASCAS ac Ockenden.

5.2.9 Gwelliannau i wasanaethau - ymgymerwyd ag ymarfer caffael i gomisiynu hyfforddiant ar gyfer y methodoleg 'Heddiw Mi Fedraf'  a chynhaliwyd y fenter asiant newid 90 diwrnod cyntaf yn gynnar yn Hydref 2018.  Mae'r Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu hefyd wedi symud recriwtio ymlaen ar gyfer Arweinyddion Gwella Gwasanaeth.  Bydd y swyddi hyn yn cefnogi'r Timau Ardal i ddatblygu a mewnosod eu cynlluniau, a byddant yn sicrhau bod y rhaglen newid yn cael ei chynnal ar draws gogledd Cymru.

5.2.10 Gan ddefnyddio cyllideb trawsnewid Llywodraeth Cymru, mae'r Bwrdd Iechyd wedi comisiynu adolygiad llawn yn ddiweddar o fynediad at therapïau seicolegol, a fydd yn cynnwys darpariaeth dan Rhan 1 y Mesur Iechyd Meddwl. Yn ogystal â hyn, mae'r Bwrdd Iechyd a'r chwe awdurdod lleol, mewn partneriaeth â chydweithwyr y trydydd sector, wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau cefnogaeth ariannol ar gyfer darparu caffis argyfwng fel dewisiadau amgen i dderbyniad. 

5.2.11 Bu nifer o ymweliadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW) yn ddiweddar â chyfleusterau cleifion mewnol a chymuned.   Er nad yw'r holl adroddiadau ffurfiol ar gael ar hyn o bryd, mae adborth a datganiadau anffurfiol o'r adroddiadau hyn eisoes wedi'u cyhoeddi, ac yn rhoi sylwadau cadarnhaol am forâl staff, arweinyddiaeth ac ansawdd rhyngweithiad cleifion.   Mae HIW hefyd wedi rhoi sylw i welliannau mewn cydymffurfiad â hyfforddiant gorfodol

5.2.12 O ran Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) bellach mae un pwynt mynediad yn ei le i gynnig cyngor a chyfeirio i staff proffesiynol cysylltiedig sy'n gweithio â phlant yng ngogledd Cymru. O gofio'r galw cynyddol am wasanaethau CAMHS, cynhaliodd y Bwrdd Iechyd ei sesiwn 'gwraidd yr achos' cyntaf i ddeall materion galw a gallu'n well. Cynhelir sesiwn dilyn i fyny gyda’r rhai sy’n cyfeirio a rhanddeiliaid ehangach.  Yr ymagwedd tymor hir yw canolbwyntio ar rwystro ac ymyriad cynnar.

5.2.13 Mae llwybr niwro-ddatblygiad Cymru gyfan yn ei le, sy'n golygu bydd plant sy'n dangos arwyddion o gyflyrau megis awtistiaeth ac ADHD yn cael eu gweld gan bediatrydd cymuned ac yn derbyn asesiad datblygiadol amlddisgyblaethol, gyda chyfeiriad at CAMHS os bydd angen.  Mae tîm integredig gogledd Cymru yn ei le i ddarparu gwasanaethau i oedolion ag awtistiaeth.

5.2.14 Yn dilyn cwblhau asesiad risg ar gyfer pob ward ac amgylchedd cleifion mewnol Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, gan gynnwys asesu risgiau rhwymyn, datblygwyd cyd-raglen 2 flynedd i waredu ar bwyntiau rhwymyn risg uchel a gwella'r amgylchedd cyffredinol ar draws yr holl leoliadau cleifion mewnol.    Roedd y gwelliannau hyn yn mynd i'r afael â sawl mater ansawdd a diogelwch a godwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Uned Ddarparu Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Iechyd Cymunedol, yn ogystal â gwella profiad y claf, perthnasau, gofalwyr a staff.   Mae proses asesu barhaus yn ei lle, gan ddefnyddio offer asesu risg a gytunwyd ac fe'i rheolir gan uwch reolwyr wardiau a metronau.

 

6 Cynnydd mewn Gwasanaethau Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau (Argymhelliad 13)

6.1 Mae gwaith wedi parhau ers 2016 i wella gwasanaethau Meddygon Teulu y tu allan i oriau, ac i gwrdd â'r safonau cenedlaethol a adolygwyd.  Gwnaed cynnydd arwyddocaol dros y 18 mis diwethaf, mae cyfraddau llenwi rota wedi parhau i wella a disgrifiodd adborth cleifion yng Ngorffennaf/Awst 2018 bod y gwasanaeth yn 'ardderchog' (80%) neu 'da' (13%).

6.2 Mae gwaith yn parhau i drawsnewid y model gwasanaeth fel ei fod yn parhau i fod yn addas i bwrpas ac yn gynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys camau i ad-drefnu'r gwasanaeth ar draws gogledd Cymru, i alinio gyda disgwyliadau'r gwasanaeth 111 a gweithio ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o fewn hwb clinigol integredig. Cynhwysir tystiolaeth ychwanegol am y cynnydd a wnaed yn Adroddiad Trosolwg Mesurau Arbennig Mai-Medi 2018 (adran 4.4.2).

6.3 Cynhaliwyd adolygiadau cymheiriaid ar draws Cymru yn hydref 2018 a chynhaliwyd adolygiad cymheiriaid o wasanaethau Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau'r Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2018.   Pwrpas yr adolygiad a'r tîm oedd gweithredu fel “cyfaill beirniadol" ac i gynnig ychydig o gefnogaeth a chyngor uniongyrchol i'r tîm lleol cyn pwysau'r gaeaf a ragwelir. Yn ei lythyr eglurhaol, nododd Cadeirydd y Panel Adolygu Cymheiriaid: Yn gyffredinol, roedd yr ymroddiad parhaus a ddangoswyd gan yr holl staff a'u pwyslais parhaus ar ddarparu gofal o safon uchel i gleifion yn y Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau wedi creu argraff ar y Panel. Roedd yn amlwg bod angerdd i ddarparu newid cynaliadwy hir dymor (24/7) a bod gweledigaeth arfaethedig eich gwasanaeth hefyd yn cyd-fynd â'r agenda trawsnewid 111 ehangach.

 

6.4 Crëwyd cynllun gweithredu drafft gan y Panel ar gyfer y tîm lleol. Roedd y themâu eang yn ymdrin â:

 

·                     model gwasanaeth presennol

·                     brysbennu clinigol priodol ac effeithiol

·                     gweithlu amlddisgyblaethol

·                     llywodraethu clinigol a chorfforaethol a risg

·                     llwybrau clinigol

·                     tîm rheoli y Tu Allan i Oriau

 

7. Mesurau arbennig

7.1 Ym mis Tachwedd 2014, penderfynodd Llywodraeth Cymru y dylid uwchgyfeirio’r Bwrdd Iechyd i 'ymyriad targededig' dan drefniadau protocol uwchgyfeirio ac ymyriad y GIG. Y rheswm dros hyn yw pryder cynyddol yn ymwneud â:

-       heriau arwyddocaol yn y cynllun ariannol ar gyfer 2014/15

-       pryderon arwyddocaol yn ymwneud â darpariaeth, diogelwch ac ansawdd Gwasanaethau Iechyd Meddwl

-       rheolaeth a rheoli cynllunio cyfalaf.

 

7.2 Adolygiad diagnostig oedd cam cyntaf yr ymyriad targededig. Ymgymerwyd â'r gwaith hwn rhwng Rhagfyr 2014 a Chwefror 2015, ac roedd yn cynnwys adolygiad ariannol a llywodraethu.  Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynnol gan y Bwrdd Iechyd ym mis Mehefin 2015.

7.3 Ym mis Mehefin 2015, ysgrifennodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bryd hynny at Gadeirydd y Bwrdd Iechyd a chyflwynodd ddatganiad ysgrifenedig i hysbysu byddai'r Bwrdd Iechyd yn cael ei osod dan fesurau arbennig yn dilyn cyfarfod tairochrog rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

7.4 Cyhoeddwyd y Fframwaith Gwella Mesurau Arbennig (SMIF) ym mis Ionawr 2016, a oedd yn cynnwys cerrig milltir y bydd cynnydd y Bwrdd Iechyd yn cael ei fesur yn eu herbyn. Roedd y Fframwaith yn ymdrin ag:

 

7.5 Ym mis Ebrill 2016, cymeradwyodd y Bwrdd sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Fframwaith Gwella Mesurau Arbennig. Pwrpas y grŵp oedd cynghori'r Bwrdd ar effeithiolrwydd y trefniadau sy'n eu lle i ymateb i'r disgwyliadau o fewn y SMIF, a rhoi sicrwydd iddo. Cadeiriwyd y grŵp gan Is-Gadeirydd y Bwrdd, gyda gweddill ei aelodau yn cynnwys cyfarwyddwyr allweddol, aelodau annibynnol a chynghorydd annibynnol. Yn awr yn cael ei gadeirio gan Gadeirydd newydd y Bwrdd Iechyd, mae'r grŵp yn goruchwylio cynnydd, ac yn parhau i adrodd i'r Bwrdd yn rheolaidd ar ôl bob un o'i gyfarfodydd. 

7.6 Cymeradwywyd adroddiad cynnydd Diwedd Cyfnod 1 (yn cwmpasu'r cyfnod o fis Tachwedd 2015 i fis Ebrill 2016) i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru yng nghyfarfod Bwrdd mis Mai 2016. Roedd y cynnydd a nodwyd yn cynnwys penodiadau allweddol ar lefel Gweithredwyr, a chymeradwyo Fframwaith Sicrwydd Bwrdd, Strategaeth Rheoli Risg a Strategaeth Ymgysylltu.

7.7 Cymeradwywyd adroddiad cynnydd Diwedd Cyfnod 2 (yn cwmpasu'r cyfnod o fis Mai 2016 i fis Tachwedd 2016) i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru yng nghyfarfod Bwrdd mis Tachwedd 2016. Nodwyd cynnydd ar draws ystod o feysydd, yn cynnwys datblygiad Bwrdd, clirio'r ôl-groniad hanesyddol o bryderon, ymgysylltu â chleifion/y cyhoedd/ymgysylltu â staff, llywodraethu mewnol cryfach mewn gwasanaethau iechyd meddwl, penodi Cyfarwyddwr Ymchwiliadau Allanol i gydlynu mewnbwn i'r ymchwiliad HASCAS ac adolygiad llywodraethu Donna Ockenden, gweithio mewn clwstwr yn well mewn gofal cychwynnol, a gwasanaethau mamolaeth mwy cadarn a chynaladwy.

7.8 Ym mis Ebrill 2017, daeth Llywodraeth Cymru i'r casgliad bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd mewn sawl maes a bod cyfeiriad y daith yn gyffredinol dda.  Fodd bynnag, mae nifer o heriau mewn meysydd allweddol yn parhau i fod angen canolbwyntio a sylw parhaus.  

7.9 Ym mis Mehefin 2017, adroddodd y cyd-adolygiad a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn ffurfiol ar y gweithredoedd a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd i fynd i'r afael â'r pryderon llywodraethu a nodwyd yn wreiddiol yn 2013. Roedd yr adroddiad yn cydnabod bod y Bwrdd Iechyd yn gwneud cynnydd mewn rhai meysydd, fel y dengys drwy recriwtio'n llwyddiannus mewn gwasanaethau mamolaeth, a model gofal cychwynnol newydd ym Mhrestatyn, gwell trefniadau llywodraethu, a gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu strategaeth iechyd meddwl. Nododd yr adolygiad hefyd bod y Bwrdd yn parhau i wynebu nifer o heriau sylweddol. Roedd y rhain yn cynnwys perfformiad ariannol, datblygiad strategaeth/cynllun ac ymgorffori trefniadau sicrwydd ansawdd yn llawn. 

7.10 Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ddatganiad i gadarnhau y byddai'r Bwrdd Iechyd yn parhau i fod ar lefel dwysau presennol mesurau arbennig. Derbyniodd y Bwrdd gasgliadau Ysgrifennydd y Cabinet yn llawn, a rhai adolygiad ar y cyd HIW/WAO. Cafodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Fframwaith Gwella Mesurau Arbennig y dasg o fwrw ymlaen â'r camau gweithredu priodol a'u monitro.

7.11 Ym mis Awst 2017, bu’n rhaid dwysau trafodaethau penodol ar gyllid a pherfformiad. Roedd Llywodraeth Cymru yn parhau i boeni am y sefyllfa cyllid a pherfformiad a oedd yn dirywio, a phenderfynwyd yn ogystal â'r camau gweithredu sy'n cael eu cymryd o ran mesurau arbennig, y byddai'n briodol i'r Bwrdd Iechyd gael yr un trafodaethau o ran cyllid a pherfformiad a oedd wedi bod yn codi mewn sefydliadau dan Ymyriad wedi'i Dargedu. Felly symudodd y sefydliad yn effeithiol i drawsnewid fel rhan o'i ragolygon ariannol a pherfformiad / cyflawni, a rhoddwyd camau gweithredu sy'n cyd-fynd i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol a pharhaus.

7.12 Cymeradwywyd yr adroddiad Diwedd Cyfnod 3 (sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2016 a mis Tachwedd 2017) ar gyfer ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yng nghyfarfod Bwrdd mis Ionawr 2018.  Nododd yr adroddiad hwn, drwy gydol y cyfnod adrodd, bod Llywodraeth Cymru wedi parhau i gael trafodaethau rheolaidd â'r Bwrdd Iechyd o ran mesurau arbennig- gan graffu a herio er mwyn llywio gwelliannau mewn perfformiad a darpariaeth. Nododd yr adroddiad gyflawniadau allweddol hefyd yn y meysydd sydd wedi eu gweddnewid fwyaf ers 2015, yn bennaf y themau arwain, llywodraethu, gwasanaethau mamolaeth, gofal cychwynnol ac ymgysylltu.

7.13 Ym mis Chwefror 2018, rhoddodd  Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddiweddariad ar statws uwchgyfeirio sefydliadau iechyd dan y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyriad. Amlinellodd y datganiad diweddaru gefnogaeth ychwanegol ar gyfer y Bwrdd Iechyd. Nododd Ysgrifennydd y Cabinet fod y Bwrdd wedi gwneud ychydig o gynnydd yn erbyn y disgwyliadau a amlinellwyd yn y Fframwaith Gwella Mesurau Arbennig, yn enwedig ym meysydd arweinyddiaeth a llywodraethu- gyda Thîm Gweithredwyr llawn yn ei le, rhaglen datblygiad a strwythur pwyllgor Bwrdd yn ei lle, a gwelliannau mewn trosolwg clinigol a rheoli pryderon. Bu i gerrig milltir allweddol gael eu cyflawni hefyd o ran datblygiad strategaeth iechyd meddwl, ymgysylltu â'r cyhoedd, adborth arolwg staff a darpariaeth gofal cychwynnol arloesol. Bu gwelliannau sylweddol mewn gwasanaethau mamolaeth, i'r graddau bod y maes hwn wedi cael ei dad-ddwysau o fesurau arbennig.

7.14 Er gwaethaf y gwelliannau mewn rhai meysydd pwysig, nododd Ysgrifennydd y Cabinet bod y Bwrdd Iechyd yn parhau i wynebu heriau sylweddol hefyd, yn enwedig o ran cyllid a pherfformiad, a hefyd o ran arweinyddiaeth a gwelliannau ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl (yn dilyn colli momentwm yn deillio o absenoldeb salwch uwch reolwyr allweddol). Felly cyhoeddwyd cyfres o gamau gweithredu ymyriad a chefnogaeth ychwanegol (yn cynnwys mewnbwn gan Mr David Jenkins, Cynghorydd Annibynnol a benodwyd gan Lywodraeth Cymru), gyda maen prawf gwella i'w ddatblygu erbyn mis Ebrill 2018. Cyhoeddodd y Bwrdd adroddiad ar y camau hyn yn mis Mehefin 2018.

7.15 Cyhoeddwyd Fframwaith Gwella Mesurau Arbennig pellach ar gyfer cyfnod mis Mai 2018 - mis Medi 2019 gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2018. Roedd yn cynnwys y pedair thema o arweinyddiaeth a llywodraethu, cynllunio strategol a gwasanaeth, iechyd meddwl a gofal cychwynnol yn cynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau, gyda'r disgwyliadau wedi'u lledaenu ar draws tri chyfnod.  Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet yn glir y byddai angen i asesiadau cynnydd y dyfodol ddangos bod datrysiadau cynaladwy yn eu lle i gynnal gwelliannau.

7.16 Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar y Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyriad ar y Cyd ym mis Gorffennaf 2018.

7.17 Hefyd ym mis Gorffennaf 2018, derbyniodd y Bwrdd adroddiad ar 'Adolygiad o'r trefniadau llywodraethu sy'n ymwneud â gofal cleifion ar ward Tawel Fan cyn iddi gau ar 20 Rhagfyr 2013 a threfniadau llywodraethu mewn iechyd meddwl pobl hŷn yn BIPBC o fis Rhagfyr 2013 hyd yma' gan Donna Ockenden. Mewn ymateb, cytunodd y Bwrdd ar drefniadau llywodraethu a goruchwylio ar gyfer gweithredu'r argymhellion sy'n deillio o adolygiad Ockenden. Cytunwyd ar drefniadau tebyg hefyd ar gyfer yr argymhellion a wnaed o ganlyniad i ymchwiliad annibynnol HASCAS, a gomisiynwyd ym mis Awst 2015.

7.18 Ym mis Medi 2018, dechreuodd Mr Mark Polin, y Cadeirydd newydd ei swydd, a recriwtwyd Is-Gadeirydd newydd a 5 Aelod Annibynnol, yn ogystal â 2 Gyfarwyddwr Gweithredol. Cymerodd y Cadeirydd gyfrifoldeb yn syth am gadeirio'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen SMIF a'r Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad. Ailosodwyd disgwyliadau o ran llywodraethu a chraffu, a threfnwyd cyfarfodydd bwrdd ar sail bob yn ail fis er mwyn caniatáu craffu manylach ar bynciau allweddol yn ystod gweithdai penodol.  Nodwyd effaith hyn gan Swyddfa Archwilio Cymru yn eu hasesiad strwythuredig diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018:

Edrychom ar sut oedd y Bwrdd yn ei drefnu ei hun i gefnogi arwain busnes yn effeithiol. Gwelsom fod gan y Bwrdd Iechyd drefniadau da i gefnogi effeithiolrwydd y bwrdd a’i bwyllgorau ac mae’n dangos arwyddion diweddar o gryfhau craffu, ac mae’n gweithio i ddatblygu pwyslais cryf ar lai o flaenoriaethau allweddol.”

 

7.19 Ym mis Tachwedd 2018, cymeradwyodd y Bwrdd adroddiad cynnydd mesurau arbennig i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn cwmpasu mis Mai- Medi 2018. Pwysleisiodd yr adroddiad hwn gynnydd yn ymwneud â gallu a sefydlogrwydd y Bwrdd, datblygiad ymateb cynhwysfawr i argymhellion HASCAS ac Ockenden, ymgysylltu â staff, cyfranogiad clinigol mewn cynigion newid gwasanaeth, a chyflawni diwylliant o beidio â lleoli cleifion iechyd meddwl y tu allan i'r ardal.

7.20 Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Fframwaith Gwella Mesurau Arbennig, fel y soniwyd eisoes, wedi canolbwyntio ar graffu ar gynnydd a rhoi sicrwydd i'r Bwrdd o ran effeithiolrwydd y trefniadau sydd yn eu lle i ymateb i'r Fframwaith Gwella Mesurau Arbennig.

7.21 Mae'r Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad, gyda chymorth recriwtio cynghorydd arbenigol ar gyllid yn ddiweddar gan y Cadeirydd, wedi troi ei sylw yn syth ar weithgaredd trawsnewid a rheolaeth ariannol. O ran hyn, mae'r Cadeirydd ar fin comisiynu, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, adolygiad allanol o'r trefniadau presennol, gyda phwyslais penodol ar gynllunio datblygiad a threfniadau darparu cysylltiedig. O ran perfformiad, mae'r Pwyllgor yn awyddus i weld gwelliannau mewn amseroedd cyfeiriad i driniaeth a gofal heb ei drefnu yn benodol, ac mae'r ddau ohonynt yn destun adrodd misol.  Mae adroddiad perfformiad y Bwrdd wedi cael ei ddiwygio i ddarparu mwy o bwyslais ar heriau allweddol, cynnydd a chamau i wella.

7.22 Ym mis Tachwedd 2018, ystyriodd y Bwrdd Iechyd mewn manylder y buddsoddiad ychwanegol a gytunwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2018, cyfanswm o £6.8m, i gefnogi gwaith mesurau arbennig ar draws 2018/19 a 2019/20.

7.23 Mewn datganiad ar lafar ar 6 Tachwedd 2018, pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol welliannau a wnaed gan y Bwrdd Iechyd o ran gallu'r Bwrdd, systemau sicrwydd, gweithio mewn partneriaeth ac iechyd meddwl. Pwynt gwerth ei nodi, yw bod y  gwelliannau yng nghanlyniadau Arolwg Staff y GIG ers 2016, wedi cael eu cydnabod o ran ymgysylltu â staff. Er hynny, nodwyd heriau parhaus yn ymwneud â chyllid, cynllunio a pherfformiad.

7.24 Yn yr un mis, derbyniodd y Bwrdd adroddiad yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Strategaeth Ymgysylltu Staff, ynghyd â darganfyddiadau Arolwg Staff cenedlaethol 2018. Nodwyd y gwelliant mewn nifer o fesurau a chymeradwywyd datblygu cynllun gwella cyffredinol ynghyd â chynlluniau gwella Uwch Adrannol. Cefnogir yr ymagwedd hon yn llwyr gan y gymdeithas staff.

7.25 Mae’r Bwrdd Iechyd yn parhau i lywio gwelliannau sy’n cael eu mesur gan y Fframwaith Gwella Mesurau Arbennig. Bydd yr adroddiad diweddaru ffurfiol nesaf i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn cwmpasu elfen mis Hydref 2018-Mawrth 2019 o’r Fframwaith.

 

8. Adolygiad Llywodraethu Ockenden ac Ymchwiliad HASCAS:

8.1 Cefndir a Chyd-destun

8.1.1 O ganlyniad i bryderon a godwyd gan berthnasau cleifion ward Tawel Fan am y gofal, gwnaeth y Bwrdd Iechyd benderfyniad i gau'r ward a oedd yn darparu gwasanaethau i bobl hŷn â dementia ym mis Rhagfyr 2013. Roedd y pryderon a godwyd mor ddifrifol, fe gomisiynodd y Bwrdd Iechyd ymchwiliad allanol annibynnol ym mis Chwefror 2014 gan Donna Ockenden, ymchwilydd annibynnol (a chafodd ei hadroddiad a'i hargymhellion yn cael eu derbyn gan y Bwrdd ym mis Mehefin 2015).

 

8.1.2 Ym mis Awst 2015, comisiynodd y Bwrdd Iechyd ymchwiliad clinigol, annibynnol, cynhwysfawr a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth gan HASCAS i'r gofal a'r driniaeth a ddarparwyd i gleifion ar ward Tawel Fan. Roedd y comisiwn hefyd yn gofyn am werthusiad ac asesiad o resymoldeb unrhyw weithredoedd neu esgeulustod gan staff y Bwrdd Iechyd er mwyn i reolwyr allu gwneud penderfyniadau yn unol â pholisïau’r gweithlu. Ym mis Tachwedd 2015, comisiynodd y Bwrdd Iechyd Donna Ockenden Ltd i gynnal adolygiad llywodraethu i wasanaethau iechyd meddwl pobl hŷn ar draws Gogledd Cymru.

8.1.3 Ym mis Ionawr 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon y penderfyniad i sefydlu panel goruchwylio annibynnol ar gyfer ymchwiliad HASCAS ac adolygiad llywodraethu Ockenden, i roi sicrwydd ar gywirdeb y gwaith, ac i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau yn amserol.

8.1.4 Ym mis Mai 2018, cyhoeddodd y Bwrdd Iechyd  ‘Ymchwiliad annibynnol i'r gofal a'r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan: adroddiad gwersi i'w dysgu’ gan HASCAS.

 

8.2 Y Diweddaraf am Gynnydd

8.2.1. Ym mis Gorffennaf 2018, yn ystod ei gyfarfod cyhoeddus, ystyriodd y Bwrdd Iechyd ei ymateb cychwynnol i adroddiad HASCAS a chymeradwyodd y trefniadau llywodraethu ac adrodd ochr yn ochr â chylch gorchwyl Grŵp Gwella dan arweiniad Grŵp Rhanddeiliaid i oruchwylio'r gwaith o roi'r argymhellion ar waith o adroddiad HASCAS ac adolygiad Llywodraethu Ockenden ar y cyd. 

8.2.2 Sefydlwyd y Grŵp Gwella a'r Grŵp Rhanddeiliaid ac mae aelodaeth wedi'i chytuno a'i chadarnhau yn unol â’r cylch gorchwyl perthnasol. 

8.2.3 Mae'r Grŵp Rhanddeiliaid, sy'n is-grŵp y Grŵp Gwella, yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Cyngor Iechyd Cymuned, Prifysgol Bangor, Hosbis Sant Cyndeyrn, Heddlu Gogledd Cymru, awdurdodau lleol Gogledd Cymru, cynghorau gwirfoddol cymunedol, Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru a Fforwm Gofal Cymru yn ogystal â chwe aelod teuluol o 'Tawel Fan'. Mae staff o'r gwasanaeth seicoleg hefyd yn mynd i'r cyfarfodydd hyn er mwyn cynnig cymorth i aelodau os bydd angen.

8.2.4 Ym mis Tachwedd 2018, derbyniodd y Bwrdd Iechyd bapur yn rhoi adroddiad cynnydd yn erbyn yr argymhellion.  

8.2.5 Roedd adborth cadarnhaol cynnar wedi dod i law gan gynrychiolwyr trydydd sector a aeth i'r Grŵp Rhanddeiliaid a rhoddwyd sicrwydd bod y Bwrdd Iechyd yn atgyfnerthu ei ymagwedd tuag at weithio mewn partneriaeth.

8.2.6 Mae'r holl argymhellion o adroddiadau HASCAS ac Ockenden wedi'u mapio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau bod y camau angenrheidiol a nodir yn cael eu hymgorffori ar draws y sefydliad ac nad ydynt yn derbyn sylw ar wahân. 

8.2.7 Cafodd papur yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o'r argymhellion ei ystyried gan Bwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad y Bwrdd Iechyd ym mis Ionawr 2019 a chan y Bwrdd ei hun yn ystod yr un mis. Er iddynt nodi'r cynnydd a wnaed, gofynnodd y Bwrdd am adborth ffurfiol gan aelodau'r Grŵp Rhanddeiliaid yn ymwneud â pha mor fodlon yr oeddent ar y trefniadau presennol ac i hyn gael ei adrodd yn ôl wrth ei gyfarfod nesaf.

8.2.8 Mae gwaith ar y gweill mewn perthynas â gofal diwedd oes ar wardiau iechyd meddwl pobl hŷn (OPMH). Mae hyn yn cynnwys ceisio cynnig gofal mewn amgylchedd o ddewis y claf, a rhoi cynlluniau gofal uwch ar waith, cynlluniau dwysáu triniaeth a threfniadau Cymru gyfan ar gyfer penderfyniadau gofal yn ymwneud â dyddiau olaf oes. Caiff asesiadau risg eu cynnal gyda theuluoedd er mwyn sicrhau sgyrsiau cynnar mewn perthynas â chynllunio gofal a dewis. Caiff hyfforddiant gofal lliniarol ei gynnig i staff yn yr holl leoliadau gofal.

8.2.9 Mae gwaith wedi datblygu trwy roi nifer o fentrau ar waith sydd â'r nod o wella profiad pobl sy'n byw â dementia, sy'n mynd i Adrannau Achosion Brys ar gyfer gofal heb ei drefnu. Yn benodol, mae'r tri safle ysbyty'n gysylltiedig â rhaglen Ysbytai sy'n Deall Dementia, ac mae gwaith da ar y gweill ar draws yr holl safleoedd ond yn nodedig, enillodd Ysbyty Gwynedd achrediad Ysbyty sy'n Deall Dementia gan y Gymdeithas Alzheimer ddiwedd y llynedd, yr ysbyty cyntaf yng Nghymru i gyflawni hyn.  Fel rhan o'r rhaglen waith hon, mae'r mentrau canlynol ar waith hefyd;

·         Mae cardiau pili-pala i dynnu sylw'n cael eu cyflwyno, sy'n caniatáu i unigolyn y mae dementia'n effeithio arno i dynnu sylw staff yr Adran Achosion Brys at eu hanghenion.  Nod y cardiau yw cynorthwyo cleifion i sicrhau bod eu dementia a'u pryder yn cael eu cydnabod, bod hyn yn arwain at frysbennu'n gynt, bod brysbennu'n deall dementia a bod y nyrs frysbennu'n dynodi gyda'r unigolyn a'i deulu / gofalwyr beth yw'r ffordd orau o gynorthwyo'r unigolyn i gael y driniaeth fwyaf priodol.

·         Mae'r waled oren yn gynllun sy'n cynorthwyo pobl sydd â ffurfiau ar anabledd na fydd modd eu gweld o bosibl ac unrhyw gyflyrau sy'n effeithio ar ddealltwriaeth a chyfathrebu wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus.

·         Mae Addewid Dementia ar waith yn yr Adran Achosion Brys sy'n ddatganiad cyhoeddus sy'n amlinellu'r hyn y mae pob adran wedi ymrwymo iddo.

 

8.2.10 Llwyddwyd i benodi i swydd ar gyfer ail nyrs ymgynghorol gyda diddordeb arbennig mewn dementia yn dilyn cyfweliadau ym mis Ionawr.  Disgwylir iddynt ddechrau yn ei swydd yn gynnar yn y gwanwyn 2019

8.2.11 Mae Hyfforddiant Cyfeillion Dementia wedi'i ddarparu i'r Bwrdd.

 

9. Pryderon (rheoli cwynion a digwyddiadau)

9.1 Cefndir a Chyd-destun

9.1.1 Ar ddechrau mesurau arbennig yn 2015, roedd y fframwaith gwella a roddwyd gan Lywodraeth Cymru yn adlewyrchu pryderon ynghylch rheoli cwynion. Pennwyd disgwyliad i 'wella amseroedd ymateb i bryderon a chwynion, gan sicrhau bod yr ôl-groniad yn cael ei glirio ar frys gan ddysgu gwersi a sicrhau tystiolaeth o gamau a roddwyd ar waith'. Yn ogystal, roedd adroddiad PAC ym mis Chwefror 2016 yn cynnwys argymhelliad i Lywodraeth Cymru 'sicrhau bod pryderon/cwynion yn cael sylw digonol ar lefel y Bwrdd neu'n cael eu dwysáu'n gynt'.

9.1.2 Yn ogystal â phryderon PAC a'r disgwyliad a bennwyd yn y Fframwaith Gwella Mesurau Arbennig, yn 2016, gwnaeth Swyddfa Archwilio Cymru yr argymhelliad penodol 'y dylai'r Bwrdd Iechyd ystyried camau pellach i wella arweinyddiaeth a pherchenogaeth glinigol prosesau Gweithio i Wella, er mwyn cynorthwyo'r gwelliant sydd ei angen i amseroedd ymateb a dysgu o gwynion, digwyddiadau a honiadau'. Mae'r Bwrdd Iechyd yn cydnabod bod ymchwilio a deall pryderon (cwynion a digwyddiadau), ochr yn ochr â safbwyntiau defnyddwyr gwasanaeth, yn ffynhonnell bwysig o ddysgu a gwella

 

9.2 Cynnydd rheoli cwynion o dan fesurau arbennig

9.2.1 Trwy gydol camau cynharach mesurau arbennig yn ystod 2015-16, roedd gwella dulliau rheoli cwynion yn faes â chamau penodol. Dechreuodd y broses trwy fuddsoddi mewn adeiladu a hyfforddi'r tîm cwynion corfforaethol, gan gyflwyno mecanweithiau adrodd ychwanegol gyda ffyrdd gwell o adnabod gwersi a ddysgwyd a hefyd clirio'r ôl-groniad hanesyddol o gwynion. Datblygodd i osod trywyddion gwella i gael eu harchwilio trwy drefniadau perfformiad ac atebolrwydd mwy cadarn, gan arwain at amseroedd ymateb gwell a newid ffocws i leihau nifer y pryderon a oedd yn agored unwaith yr oedd yr ôl-groniad wedi clirio.

 

9.2.2 Ym mis Mai 2017, cafodd cyfrifoldeb dros brosesau Gweithio i Wella (PTR) ei drosglwyddo i Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth a'r nod oedd gwella hyd a lled arweinyddiaeth glinigol yn y prosesau PTR. Fel rhan o'r trosglwyddiad hwn, cafodd Cyfarwyddwr Cyswllt Ansawdd a Sicrwydd ei benodi ym mis Rhagfyr 2017, ac roedd dulliau rheoli pryderon yn rhan o bortffolio'r rôl.

 

9.2.3 Mae gwaith gwella ansawdd a diogelwch gofal dan arweiniad Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi canolbwyntio ar feysydd penodol gwella yn y Strategaeth Gwella Ansawdd (QIS). Mae'r blaenoriaethau yn y QIS yn adlewyrchu'r prif themâu a godwyd gan y claf a'i deuluoedd trwy'r broses pryderon. Nodau'r strategaeth yw:  

 

 

9.2.4 O ran lleihau niwed yn y strategaeth,  y meysydd i ganolbwyntio arnynt yw:

 

·         thromboemboledd gwythiennol (VTE)

·         heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd (HCAI)

·         ymateb i gleifion sy'n dirywio a chydymffurfio â sgoriau rhybudd cynnar

·         wlserau gwasgu

·         codymau

·         diogelwch meddyginiaeth

·         canfod a thrin sepsis yn gynnar.

 

9.2.5 Mewn perthynas ag arwain a llywodraethu, o dan arweinyddiaeth glinigol Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth, mae'r trefniadau llywodraethu o ran delio â phryderon wedi'u hadolygu. Mae aelod annibynnol o'r Bwrdd wedi'i enwi i gyflawni rôl pencampwr pryderon. Mae'r rôl hon yn cynnwys cyfrifoldeb dros lefel uwch o ffocws dros y maes gwaith hwn. Mae gan y pencampwr lefel uwch o fewnwelediad a gwybodaeth, gan ei alluogi i gefnogi'r Bwrdd yn well o ran deall prif faterion. Yn bwysig hefyd, mae'r unigolyn wedi derbyn rôl Cadeirydd y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad (QSE).

 

9.2.6 Caiff y Bwrdd ei gyfeirio ar y prif faterion trwy’r Pwyllgor QSE a'r Grŵp Ansawdd a Diogelwch (QSG). Caiff y Grŵp Ansawdd a Diogelwch ei arwain gan weithredwyr clinigol. Mae'n cynnig adolygu ac arolygu amlddisgyblaethol o ran materion ansawdd ac mae'n hybu dysgu.  Mae holl uwch adrannau'r Bwrdd Iechyd yn cynnig adroddiadau misol ar eu materion ansawdd a diogelwch, gan gynnwys pryderon.  Mae'r QSG yn cynnig adroddiad eithriadau i'r Pwyllgor QSE ym mhob cyfarfod.

9.2.7 Caiff cyfarfodydd adolygu digwyddiadau wythnosol eu cynnal, gan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Cyswllt Ansawdd a Sicrwydd. Mae'r rhain yn cynnig fforwm i adolygu'r holl ddigwyddiadau difrifol a adroddir trwy system rheoli electronig Datix dros y saith niwrnod blaenorol, ac mae'n olrhain hynt ymchwiliadau a dysgu. Mae hefyd yn adolygu'r holl gwestau sydd i ddod a chwynion sy'n dal i fod ar agor y tu hwnt i dri mis.

9.2.8 Mae strwythurau rheoli pryderon a strwythurau cymorth corfforaethol wedi'u hadolygu er mwyn galluogi'r tîm corfforaethol i roi mwy o amser i hyfforddi, cefnogi a mentora cydweithwyr trwy'r broses rheoli pryderon a gwersi a ddysgwyd. Caiff yr holl ymchwiliadau eu harwain gan y tîm gwasanaeth perthnasol, er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu'n gynt yn y broses ac yn nes at y pwynt y caiff gofal ei gynnig.

9.2.9 Mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflwyno cyfres o "uwch gynadleddau niwed" er mwyn hybu gweithgareddau lleihau niwed y gellid ei osgoi a sicrhau bod dealltwriaeth glir a chyffredin am reoli niwed. 

9.2.10 Er mwyn rheoli pryderon yn fwy prydlon, mae'r Bwrdd Iechyd wedi buddsoddi mewn meithrin capasiti gwell. O ganlyniad, dros y ddwy flynedd diwethaf, mae prydlondeb ac ansawdd ymatebion i gwynion a digwyddiadau difrifol wedi gwella rywfaint:

9.2.11 Cafwyd gwelliant parhaus o ran dulliau rheoli'r holl ddigwyddiadau. Yn benodol, mae dulliau rheoli gwell o ran digwyddiadau difrifol wedi arwain at leihau nifer y digwyddiadau sy'n cael eu hadrodd  yn gyffredinol. Mae'r duedd hon wedi bod yn arbennig o amlwg dros y misoedd diwethaf, fel y dangosir isod: 

 

9.2.12 Fel y nodwyd uchod, mae dulliau rheoli cwynion yn rhan o'r agenda ansawdd a diogelwch ehangach sy'n cael ei gyrru gan y Strategaeth Gwella Ansawdd. Isod mae rhai o'r gwelliannau sy'n cael eu darparu:

·         Cyflwyno 'dangosfwrdd niwed', i gynnig data ar y ddwy lefel. Yn gyntaf, mae gan bob prif nyrs fynediad at ei data ei hun ar lefel ward mewn amser real yn ymwneud â phedwar niwed posibl craidd o ran cwympiadau, wlserau gwasgu, atal heintiau a meddyginiaeth. Yn ail, mae dangosfwrdd niwed lefel y Bwrdd yn cynnig trosolwg i uwch arweinwyr fesul Bwrdd Iechyd, safle ysbyty ac ardal, fel y dangosir ar y sgrinlun isod:

·         Yn ystod mis Ionawr 2018, cafodd Ymgyrch Gofal Diogel Glân ei lansio ym mhob un o dri ysbyty llym y Bwrdd Iechyd. Ymgyrch galw i weithredu yw hon, yn amlinellu camau hanfodol i'w cymryd gan yr holl staff i leihau cyfraddau heintio cleifion yn sylweddol, wedi'u hategu gan hyfforddiant ac adnoddau. Mae canlyniadau cadarnhaol mewn cyfraddau rheoli heintiau yn cynnwys lleihad o 63% mewn MRSA, a lleihad o 29% mewn achosion o C.diff.

·         Ym mis Gorffennaf 2018, gwnaeth y Bwrdd Iechyd ddechrau datblygu rhaglen achredu newydd sy'n cael ei chyflwyno ar draws yr holl wardiau / unedau i gleifion mewnol. Gan adeiladu ar lwyddiant yr Ymgyrch Gofal Glân Diogel, mae'r rhaglen hon yn cynnwys gweithredu cyfres o safonau i fframio'r agenda ansawdd, diogelwch a gofal cleifion.

·         Mae'r Bwrdd Iechyd wedi bod yn canolbwyntio ar wella adrodd ar wlserau gwasgu a chynnal dadansoddiadau o wraidd achosion mewn meysydd sydd â'r amlder uchaf o niwed trwy wlserau gwasgu.  Ym mis Tachwedd 2018, cafodd prosiect cydweithredol Wlserau Gwasgu ei lansio er mwyn ategu at wella a newid diwylliant. Mae ffocws tebyg ar ddefnyddio methodoleg gwella i leihau codymau ymhlith cleifion.

·         Mae trywyddion gwella cytûn ar waith ar gyfer cwynion a digwyddiadau ym mhob uwch adran. Cytunwyd ar y rhain gyda’r Cyfarwyddwr Cyswllt Ansawdd a Sicrwydd a chânt eu monitro ganddo.

·         Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cydweithio gyda Chronfa Risg Cymru er mwyn cyflawni rôl allweddol o ran llywio'r gwaith o ddiwygio'r broses genedlaethol ar gyfer hawliadau ar ran GIG Cymru. Nod hyn yw hybu dysgu mwy effeithiol o hawliadau.

 

9.2.13 Roedd rheoli pryderon yn elfen o ganfyddiadau adolygiad HASCAS ac Ockenden.  Roedd canfyddiad allweddol yn ymwneud â'r angen i sicrhau bod teuluoedd yn gallu gwneud cŵyn yn hawdd ac y byddent yn teimlo bod eraill yn gwrando arnynt. Mae gwaith gwella ar y ddau bwynt hyn wedi cynnwys;

·         sefydlu Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cleifion (PAS) yn Ysbyty Glan Clwyd, i'w gyflwyno i Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam yn 2019/20. Mae swyddogion PAS yn gwrando ar sylwadau ac awgrymiadau gan ddefnyddwyr gwasanaeth ac yn ceisio datrys unrhyw broblemau'n gyflym

·         lansio ffurflen cwynion ar-lein o Ionawr 2019 er mwyn caniatáu iddynt gael eu cyflwyno’n uniongyrchol i'r broses pryderon corfforaethol

·         archwilio argaeledd posteri a thaflenni pryderon mewn prif ardaloedd cleifion a'r cyhoedd, sydd â'r bwriad o sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn y wybodaeth berthnasol

·         cyflwyno system adborth amser real 'View Point', sy'n cynnig ffordd i ddefnyddwyr gwasanaeth gofnodi eu sylwadau neu eu pryderon ar-lein neu ar bapur ar adeg sydd orau iddynt hwy. Mae monitro cyflwyniadau o ddydd i ddydd yn caniatáu cymryd camau prydlon ac i ddysgu ddigwydd.

 

9.2.14 Mae rheoli pryderon (cwynion a digwyddiadau) yn gynaliadwy, yn brydlon ac yn effeithiol yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig i'r Bwrdd Iechyd, ac mae gwaith yn parhau ar garlam i adeiladu ar welliannau a wnaed eisoes.

 

10. Casgliad

Mae'r adroddiad hwn yn dangos y cynnydd a wnaed hyd yma ac yn tynnu sylw at yr heriau parhaus. Fodd bynnag, mae'r Bwrdd Iechyd yn datgan yn glir iawn bod ganddo lawer o waith i'w wneud o hyd er mwyn sicrhau gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel ar draws y sefydliad, gyda pherfformiad a chydbwysedd ariannol gwell. Mae'r Bwrdd Iechyd yn ddiolchgar iawn am y cymorth ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, sydd yn ddi-os, wedi caniatáu llawer o'r cynnydd a welwyd hyd yn hyn. Gan edrych i'r dyfodol, mae'r Bwrdd Iechyd yn benderfynol o gynnig gwelliannau pellach, yn gynt trwy:

         gytuno a gweithredu cynllun mwy cadarn a'i roi ar waith, yn cynnwys dyrannu adnoddau a chynllunio prosiectau'n drwyadl, wedi'u seilio ar strategaeth glinigol gryfach ochr yn ochr â'n strategaethau cyllid, gweithlu, ystadau a strategaethau digidol

         atgyfnerthu ein capasiti a'n gallu i arwain

         prosesau gwell o ran perchnogaeth a gweithio ar y cyd, dan arweiniad y Tîm Gweithredol a hynny wedi'i alluogi trwy ein Fframwaith Atebolrwydd diwygiedig

         adeiladu ar ein prosesau gwella ansawdd/90 Diwrnod llwyddiannus i roi methodoleg gyson a chadarn ar waith ar draws y Bwrdd Iechyd cyfan

         adeiladu ar y camau rydym eisoes wedi'u cymryd i atgyfnerthu a datblygu gweithio mewn partneriaeth

         cam nesaf ein hymdrech lwyddiannus i wella dulliau ymgysylltu a morâl o ran staff

 

Rydym yn edrych ymlaen at gael y cyfle i gyfarfod â'r Pwyllgor i drafod cynnwys yr adroddiad hwn a meysydd eraill y byddai aelodau’r Pwyllgor yn hoffi eu harchwilio.